Jump to : home
 Visitor Information

Tide Information
Tide Information

For the lastest tide information in Wales

Surf Report
Surf Report

For the latest reports on surf conditions in Wales

Cruising Events
Cruising Events

For the latest on sailing and cruising events in Wales

Watersports Events
Watersports Events

For the latest information on watersports events

Croeso’r cadeirydd, Jim Wilson

Dyma’r cylchlythyr cyntaf ers imi ymgymryd â swydd cadeirydd Chwaraeon Dŵr Cymru. Rwy’n awyddus i ddechrau drwy ddiolch i bob cwmni sy’n gysylltiedig â’n gwaith am eu cymorth gyda digwyddiadau’r flwyddyn.

Rwy’n awyddus hefyd i ddiolch i fy rhagflaenydd, Philip Smith, sydd wedi gweithio’n ddiflino yn y swydd ers y dechrau yn Rhagfyr 2004.  Mae’n parhau’n gyfarwyddwr ar y cwmni, yng nghwmni finnau, Stuart Hulley a Chris Haresign.

Mae’r diwydiant chwaraeon dŵr yng Nghymru’n ffodus iawn i dderbyn cefnogaeth cynllun Croeso Cymru y Cynulliad.  Mae angen i bawb ohonon ni sy’n gweithio yn y maes gydweithredu er mwyn cyrraedd disgwyliadau ar gyfer ein sector.

Rydyn ni’n deall bod nifer o gwmnïau wedi cael blwyddyn lewyrchus, gyda nifer o arwyddion calonogol ar gyfer y dyfodol.  Mae llawer o’n marinas yn llawn i’r ymylon, gyda llwyth o geisiadau am y llefydd prin sydd ar gael.

Mae hyn yn newyddion da iawn i Gymru, ond mae angen inni beidio â gorffwys ar ein rhwyfau.  Mae angen asesu’r farchnad a chynllunio’n ofalus er mwyn datblygu a sicrhau na fyddwn ni "yn y dyfroedd mawr a’r tonnau" yn yr ystyr negyddol!

Mae Chwaraeon Dŵr Cymru’n asesu’n gweithgareddau’n barhaol er mwyn sicrhau ein bod yn darparu rhaglen wych i’n partneriaid ac yn gwneud elw wrth fuddsoddi’n gall.

Er enghraifft, rydyn ni’n ystyried prynu uned arddangosfeydd teithiol er mwyn sicrhau ein presenoldeb yn y gwyliau a digwyddiadau mawr a fyddai fel arall y tu hwnt i’n gafael oherwydd costau uchel llogi gofod.  Rydyn ni’n trafod gyda phartneriaid allweddol a noddwyr ac yn bwriadu datgelu’r penderfyniad cyn gynted a bo modd.

Rydyn ni wedi cyhoeddi manylion ein taflenni gwybodaeth ar gyfer 2007.  Mae’n bwysig ein bod yn dangos i’n cefnogwyr ein bod yn datblygu’r maes yn drefnus ar gyfer pobl Cymru.

Rwy’n sicr y byddwch yn cefnogi’r taflenni a’r digwyddiadau y byddwn yn eu mynychu’n ystod y flwyddyn.

Dymuniadau gorau,

Jim Wilsonvisit-wales-logo