Mae dechrau 2006 wedi bod yn gyfnod prysur i dîm Chwaraeon Dwr Cymru gan ein bod wedi bod yn hyrwyddo Cymru mewn nifer o sioeau sy’n canolbwyntio ar weithgareddau, cychod neu wyliau.
· Sioe Gychod Ryngwladol Llundain:
Y sioe gyntaf eleni oedd Sioe Gychod Ryngwladol Llundain – ble roeddem yn cynrychioli dros 30 o fusnesau o Gymru, gyda 6 (Pembrokeshire Cruising, All Points West, Chwaraeon Dwr Gogledd Cymru, Awdurdod Harbwr Caerdydd, Celtic Goodwill Raid ac Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau) yn gweithio’n uniongyrchol o’r stondin. Fe wnaethom hefyd weithio’n agos â Phlas Menai i sicrhau bod y 2 stondin wedi’u lleoli ochr yn ochr i greu ‘Pafiliwn Cymru’ mawr yn y sioe.
Er y cwymp yn y niferoedd a fynychodd y sioe, dywedodd y sawl a oedd ar y stondinau eu bod wedi cael nifer dda o ymholiadau a busnes. Defnyddiodd Chwaraeon Dwr Cymru'r digwyddiad i gynnal cynhadledd i’r wasg i lansio’r cwmni, i lansio’r arweiniad i chwaraeon dwr Cymru ‘Wales Watersports’ a’r arweiniad i hwylio a morio ‘Sail & Cruise Wales’ ac i dynnu sylw at nifer o’r prif ddigwyddiadau sy’n digwydd yng Nghymru yn ystod 2006.
Mae trefnwyr y sioe - National Boat Shows, wedi treulio dros 5 mis ers y sioe yn nodi ffyrdd o wella’r sioe a ffyrdd o ddenu pobl i’r sioe am y tro cyntaf. Ewch i www.britishmarine.co.uk am fwy o wybodaeth.
· Sioe Byd Gwyliau, Dulyn:
Sioe Byd Gwyliau, Dulyn, yw sioe dwristiaeth a theithio bwysicaf Iwerddon ac fe’i cynhelir yn flynyddol yn y Royal Dublin Show Ground. Mae’r sioe yn denu tua 35,000 o ymwelwyr ac mae gan nifer o bobl ddiddordeb yng Nghymru fel cyrchfan gwyliau.
Gan gydweithio â Chroeso Cymru, roedd gennym stondin 3m x 3m o faint ym Mhafiliwn Cymru – ein 2 lyfryn oedd ein prif ddeunydd ond fe wnaethom hefyd ddosbarthu ar ran nifer detholedig o fusnesau a digwyddiadau chwaraeon dwr Cymru.
Ar y cyfan dangoswyd cryn ddiddordeb mewn gwyliau chwaraeon dwr yng Nghymru ac fe wnaethom feithrin cysylltiadau cyhoeddus a chysylltiadau da â’r wasg ar gyfer y dyfodol.
· Sioe Awyr Agored, Birmingham NEC:
Dyma’r tro cyntaf i ni arddangos yn y sioe hon, felly profi’r dwr yn unig yr oeddem ni i weld ymateb y farchnad, gan ddosbarthu llyfrynnau o ddesg benodedig ar stondin Croeso Cymru.
Mae’n amlwg bod cyfleoedd mawr i hyrwyddo chwaraeon dwr Cymru yn y sioe hon ac rydym yn awr yn trafod â threfnwyr y sioe i fynd â stondin o faint i adran chwaraeon dwr y sioe ar gyfer 2007. Hoffem wneud y stondin yn un ryngweithiol a chynnig ‘arddangosfeydd addysgiadol’ o’r stondin. Byddwn felly’n cysylltu â charfanau chwaraeon dwr ledled Cymru i weld a hoffent gynnig eu sgiliau a’u gwybodaeth at ddibenion hyrwyddo yn y sioe.
· Sioe Gychod Iwerddon, Marina Malahide – Dulyn:
Daeth dros 5,000 o ymwelwyr dros un penwythnos i’r sioe fach hon a gynhaliwyd ar ochr y cei ym Marina Malahide ar gyrion Dulyn.
Aeth Chwaraeon Dwr Cymru â stondin fach i’r brif babell gan arddangos paneli arddangos ei bartneriaid a dosbarthu llyfrynnau. Cafwyd ymateb gadarnhaol ar y cyfan yn y sioe ac rydym yn edrych ymlaen at Sioe Gychod Dulyn yn y Royal Dublin Showground yn 2007.
Gweithgareddau eraill:
· Dosbarthu llyfrynnau:

"Wales Watersports - The Definitive Guide"
Cyhoeddwyd 50,000 copi o’r arweiniad hwn ac, ar wahân i 3,000 copi, maent i gyd wedi’u dosbarthu i’r farchnad. Dosbarthwyd y rhain:
· Yn Sioe Gychod Llundain
· Yn Sioe Byd Gwyliau Dulyn
· Yn y Sioe Awyr Agored
· Yn Sioe Gychod Iwerddon
· Yn Sioe Gychod De Cymru
· Mewn digwyddiad marchnata Croeso Cymru
· Mewn gorsafoedd gwasanaethau penodedig ar draffyrdd yn y Gogledd Orllewin a Chanolbarth Lloegr
· Mewn Canolfannau Croeso penodedig yn y Gogledd Orllewin, Canolbarth Lloegr, y De Orllewin a Chymru
· Yn Sioe Gychod Ryngwladol Southampton
· Mewn ymgyrch hysbysebu yn Iwerddon
"Wales Watersports - The Definitive Guide"
Argraffwyd 50,000 copi o’r arweiniad hwn a dim ond 5,000 copi sydd ar ôl i’w ddosbarthu. Dosbarthwyd y rhain:
· Mewn ymgyrch hysbysebu fawr i danysgrifwyr Sailing Today
· Mewn 10,000 mewn o becynnau croeso yn Sioe Gychod De Cymru
· Yn Sioe Gychod Llundain
· Yn Sioe Byd Gwyliau Dulyn
· Yn y Sioe Awyr Agored
· Yn Sioe Gychod Iwerddon
· Yn Sioe Gychod De Cymru
· Mewn digwyddiad marchnata Croeso Cymru
· Mewn Canolfannau Croeso penodedig yn y Gogledd Orllewin, Canolbarth Lloegr, y De Orllewin a Chymru
· Yn Sioe Gychod Ryngwladol Southampton