Jump to : home
 Visitor Information

Tide Information
Tide Information

For the lastest tide information in Wales

Surf Report
Surf Report

For the latest reports on surf conditions in Wales

Cruising Events
Cruising Events

For the latest on sailing and cruising events in Wales

Watersports Events
Watersports Events

For the latest information on watersports events

Cylchlythyr Awst 2006: Newyddion Awdurdod Porthladd Caerdydd

Canolfan canŵio slalom

Mae’n ymddangos yn fwyfwy tebygol y bydd Bae Caerdydd yn gartref i ganolfan fydd cartref canolfan canŵio dŵr gwyn a slalom.

Mi fyddai’r ganolfan yn ganolfan hyfforddi delfrydol i dimau rhyngwladol ar gyfer gemau Olympaidd 2012, ac yn lleoliad hynod o boblogaidd ar gyfer digwyddiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Ewch i www.cardiffharbour.com am ragor o wybodaeth.

Gŵyl canŵio a rhwyfo Caerdydd, Bae Caerdydd 24-25/6/2006

Canoeing_Kiran_RigelHeidiodd dros 15,000 o bobl i’r ŵyl arbennig hon, a oedd yn rhad ac am ddim i bawb, ac mi fentrodd llawer iawn ohonyn nhw i’r dyfroedd. Roedd digon i ddiddori pawb, o’r mwyaf profiadol i ddechreuwyr llwyr. Cafodd teuluoedd, a rhai oedd heb fentro o’r blaen, wahoddiad i’r sesiwn cyflwyno mewn pwll 20 metr yng nghanol Roald Dahl Plass.  Gyda chymorth Awdurdod Porthladd Caerdydd, cafodd plant mor ifanc â thair oed blas o hwyl y dŵr yng ngofal hyfforddwyr profiadol ac amyneddgar!  Cafodd pobl ifanc dros un ar ddeg oed gyfle i fentro i ddyfroedd dyfnach mewn canŵod a kayaks, ac roedd sesiynau "hogi galluoedd" ar gael i’r rhai mwy profiadol.

Ffotograffiaeth: Kiran Ridley