Jump to : home
 Visitor Information

Tide Information
Tide Information

For the lastest tide information in Wales

Surf Report
Surf Report

For the latest reports on surf conditions in Wales

Cruising Events
Cruising Events

For the latest on sailing and cruising events in Wales

Watersports Events
Watersports Events

For the latest information on watersports events

Cylchlythyr Awst 2006: Neges oddi wrth Andrew Davies

Andrew DaviesGyda bron i 750 milltir o arfordir gwych a nifer fawr o lynnoedd ac afonydd, mae gan Gymru lond gwlad o arbenigedd mewn nifer o weithgareddau dwr. Mae yma hefyd ddwsinau o borthladdoedd diogel, marinas gwych a 43 o draethau Baner Las - yr union beth ar gyfer sicrhau bod Cymru’n dod yn un o brif atynfeydd twristiaeth chwaraeon dwr ar y môr. Drwy farchnata’n ddoeth a hyrwyddo’n drylwyr mae modd llywio’r synergedd hwn sy’n bodoli ymhlith sawl un sy’n gweithio yn y maes a sicrhau bod Cymru elwa’n fawr ar y rhan hon o’r farchnad. Dyna pam fod tîm twristiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru - Croeso Cymru - wedi dyfarnu contract i Chwaraeon Dwr Cymru yn Nhachwedd 2004 i fod yn bartner iddi yn y gwaith o hyrwyddo’r fenter hon.  

Drwy Croeso Cymru, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi ymdrechion Chwaraeon Dwr Cymru i hyrwyddo cyrchfannau chwaraeon dwr ac i wella ansawdd y seilwaith a gwella arbenigedd yn y maes.  

Eisoes, mae Chwaraeon Dwr Cymru wedi creu gwefan sy’n rhestru dros 200 o fusnesau cofrestredig. Cymerodd Cymru fwy o ofod nag erioed o’r blaen yn Sioe Gychod Llundain gyda lle unigol i chwe chwmni a chynrychiolaeth ar gyfer nifer o gwmnïau eraill. Mae Chwaraeon Dwr Cymru hefyd wedi datblygu strategaeth sy’n trin hwylio ar wahân i chwaraeon dwr eraill. Yn y llyfryn Wales Watersports mae wedi nodi’r holl bethau sydd gan Gymru i’w gynnig i bobl frwdfrydig yn y maes yn ogystal â’r cynnyrch a’r gwasanaethau a gynigir gan ei 45 o bartneriaid. Dewiswyd y cylchgrawn Sailing Today i gario 12,000 o gopïau o’r llyfryn sy’n rhoi arweiniad i hwylio i danysgrifwyr.

Yn ogystal â hyrwyddo amwynderau naturiol a seilwaith gwych Cymru - sy’n parhau i dyfu’n gyflym iawn gyda marina ym Miwmares wedi’i gadarnhau, pontynau newydd yn cael eu darparu ym Mhwllheli a phrosiect i wella cyfleusterau ar Afon Teifi ar y gweill - Mae Chwaraeon Dwr Gogledd Cymru hefyd wedi bod yn gysylltiedig â’r gwaith o ennyn diddordeb ym maes datblygu a hyfforddi yn y rhanbarth.

Mae Chwaraeon Dwr Cymru hefyd wedi bod yn gweithio gyda threfnwyr Celtic Goodwill Raid, digwyddiad pwysig sy’n arddangos llawer o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig i’r rhai sy’n ymddiddori mewn chwaraeon dwr. Mae’r Celtic Goodwill Raid hefyd yn gyfle i forwyr pob math o gychod ymuno â llynges mewn mordaith ble caiff ymwelwyr gyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o chwaraeon dwr, gan gynnwys hwylio, wêc-fyrddio a pholo canw. Bydd yr antur, a ddechreuodd gyda gwyl chwaraeon dwr yng Nghaergybi, yn dilyn arfordir Cymru gan gyrraedd Abertawe ar gyfer Gwyl Chwaraeon Dwr Abertawe. Yna bydd yn mynd i Gernyw a draw i Lydaw ar gyfer rhai o ddigwyddiadau chwaraeon Dwr mwyaf Ewrop. Nautisme Espace Atlantique (NEA) sy’n datblygu’r prosiect, sefydliad sydd wedi’i greu i hyrwyddo chwaraeon dwr ledled rhanbarthau Celtaidd Ewrop ac un yr wyf wedi cael profiad uniongyrchol o’i waith.

Visit Wales Logo