Prosiect Afon Teifi
I sicrhau ffyniant Aberteifi yn y dyfodol, penderfynwyd bod angen mabwysiadu polisïau’n ymwneud ag Afon Teifi er mwyn sicrhau bod yr afon o fantais economaidd i’r rhanbarth wedi dros 100 mlynedd o ddirywiad. Mae Cyngor Sir Ceredigion eisoes wedi buddsoddi’n drwm yn y gwaith o adfywio tref Aberteifi a nawr yn ymrwymo £2.5 miliwn yn yr aber.
Gan fod yr holl aber a’r ardal gyferbyn â Bae Ceredigion wedi’i ddynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig Ewrop (SAC), mae’r polisïau sy’n cael eu mabwysiadu’n ceisio cadw cydbwysedd rhwng buddiannau cychod a’r amgylchedd. Mabwysiadwyd yr arwyddair "Cychod a Natur yn Un". Nid dim ond "marina arall" fydd Aberteifi, ond yn hytrach rhywle fydd yn cynnig y pleser syml o aber heb ei ddifetha i’r rheini sy’n gwirioni ar chwaraeon dwr.
Lluniwyd cynllun rheoli cychod felly i’w weinyddu gan Bwyllgor Sianel Fordwyo Afon Teifi'r awdurdod harbwr lleol. Mae angorfeydd ychwanegol parhaol ac ar gyfer ymwelwyr yn cael eu creu. O dan Gastell Aberteifi, bydd tair angorfa i ymwelwyr yn galluogi pobl i fod o fewn cyrraedd i’r dref. Mae pontydd glanio a phontynau yn cael eu gosod mewn tri lleoliad, Gwbert, Llandudoch a chanol tref Aberteifi. Disgwylir i fentrau cysylltiedig yn y sector preifat ddarparu mwy o gyfleoedd canwio, hwylio dingi a chyfleoedd eraill.
Gellir cael mwy o wybodaeth am atyniadau Aberteifi ac Afon Teifi yn www.visitcardigan.com ac mae tudalen newydd ar y gweill ar gyfer y safle hwn i hysbysu pobl yn benodol am y cyfleusterau newydd i gychod yn ystod 2006.