Mae Chwaraeon Dwr Cymru Rhyngwladol (WWI) yn cydnabod pwysigrwydd darparu cyfleoedd marchnata i chi sy’n darparu gwerth am arian, sy’n effeithiol ac sydd wedi’u targedu i’ch helpu i ddatblygu’ch busnes.
Mae’n cyfleoedd marchnata’n canolbwyntio ar hyrwyddo Cymru fel cyrchfan chwaraeon dwr a hwylio o’r radd flaenaf. Byddwn yn canolbwyntio i ddechrau ar y rhanbarthau canlynol:
Fel partner marchnata swyddogol Croeso Cymru bydd ein taflenni hyrwyddo, ein gwefan a’n gweithgareddau eraill yn cael eu hyrwyddo a’u hysbysebu ym mhob un o ddigwyddiadau marchnata, cyhoeddiadau a gwefan Croeso Cymru - www.visitwales.com. Drwy fanteisio ar gyfleoedd marchnata Chwaraeon Dwr Cymru Rhyngwladol gallwch fod yn siwr y bydd eich busnes yn derbyn y sylw gorau posibl ac yn cyrraedd y farchnad ehangaf.
I gael mwy o wybodaeth am gyfleoedd marchnata, neu i drafod eich gofynion, cysylltwch â Stuart Hulley, Chwaraeon Dwr Cymru Rhyngwladol Ffôn. 0845 087 3287, stuart@waleswatersports.co.uk
Cyhoeddiadau
Yr Arweiniad Swyddogol i Chwaraeon Dwr yng Nghymru – ‘Wales Watersports’
Hwn fydd yr arweiniad swyddogol i chwaraeon dwr yng Nghymru a bydd yn cynnwys erthyglau ar yr holl brif chwaraeon dwr gan gynnwys: canwio; hwylio a rasio dingi; deifio; sgïo-jet; caiacio; syrffio barcud; cychod pwer; syrffio a hwylfyrddio. Hefyd yn y llyfryn bydd erthyglau ar gyrchfannau chwaraeon dwr mwyaf poblogaidd Cymru, erthyglau ar ddigwyddiadau chwaraeon dwr a gwybodaeth am gyfleusterau traethau, harbwrs a llithrfeydd.
Lluniwyd cynllun dosbarthu penodol i sicrhau bod y llyfrynnau’n cyrraedd y bobl gywir ar yr adeg gywir. Byddant yn cael eu dosbarthu:
Fformat: 36 tudalen, A4, Lliw, Tudalen am i fynu (portrait)
Nifer: 50,000
Dyddiad Cyhoeddi: Rhagfyr 06
Dyddiad Cau ar gyfer Archebu Hysbyseb: Dydd Gwener 29 Medi 06
Cost hysbysebu:
Hysbysebion:
Tudalen lawn £1,120 a TAW
½ tudalen £600 a TAW
¼ tudalen £340 a TAW
1/8 tudalen £192 a TAW
1/16 tudalen £110 a TAW
Tu allan i’r dudalen gefn £1,650 a TAW
Tu mewn i’r dudalen gefn £1,400 a TAW
Erthyglau hysbysebu:
Erthygl un dudalen £1,200 a TAW
yn cynnwys 150 gair, 3 llun, manylion cyswllt, gwefan
Erthygl dwy dudalen £2,000 a TAW
yn cynnwys 300 gair, 5 llun, manylion cyswllt, gwefan
Yr Arweiniad Swyddogol i Hwylio a Mordeithio yng Nghymru – ‘Sail & Cruise Wales’
Hwn fydd yr arweiniad swyddogol i hwylio a mordeithio yng Nghymru a bydd yn cynnwys erthyglau ar bob gweithgaredd hwylio a mordeithio gan gynnwys: hwylio, mordeithio cychod modur a caiacio môr. Hefyd yn y llyfryn bydd erthyglau am gyrchfannau hwylio a mordeithio mwyaf poblogaidd Cymru, erthyglau ar ddigwyddiadau hwylio a mordeithio ac erthygl arbennig ar farinas, harbwrs a llithrfeydd.
Lluniwyd cynllun dosbarthu penodol. Byddant yn cael eu dosbarthu:
Fformat: 28 tudalen, A4, Lliw, Tudalen am i fyny (portrait)
Nifer: 45,000
Dyddiad Cyhoeddi: Rhagfyr 06
Dyddiad Cau ar gyfer Archebu Hysbyseb: Dydd Gwener 29 Medi 06
Cost hysbysebu:
Hysbysebion:
Tudalen lawn £1,120 a TAW
½ tudalen £600 a TAW
¼ tudalen £340 a TAW
1/8 tudalen £192 a TAW
1/16 tudalen £110 a TAW
Tu allan i’r dudalen gefn £1,650 a TAW
Tu mewn i’r dudalen gefn £1,400 a TAW
Erthyglau hysbysebu:
Erthygl un dudalen £1,200 a TAW
yn cynnwys 150 gair, 3 llun, manylion cyswllt, gwefan
Erthygl dwy dudalen £2,000 a TAW
yn cynnwys 300 gair, 5 llun, manylion cyswllt, gwefan
‘Welcome Ashore Wales’ Arweiniad i Farinas, Harbwrs, Angorfeydd a Llithrfeydd
Hwn fydd yr arweiniad swyddogol i farinas, harbwrs, angorfeydd a llithrfeydd yng Nghymru a bydd yn cael ei ddefnyddio gan bobl sy’n ymddiddori mewn chwaraeon dwr a morwyr. Bydd pob gweithredwr marina, harbwr, angorfa a llithrfa yn cael eu rhestru am ddim yn y llyfryn.
Mae cyfle i weithredwyr marinas, harbwrs, angorfeydd a llithrfeydd i ‘ychwanegu’ at yr wybodaeth sydd yn y rhestr, ac i fusnesau sydd am dargedu perchnogion cychod ac offer chwaraeon dwr.
Bydd y llyfryn gwybodaeth hwn yn cael ei ddosbarthu:
Fformat: 32 tudalen, A5, Lliw, Tudalen am i fyny (portrait)
Nifer: 15,000
Dyddiad Cyhoeddi: Rhagfyr 06
Dyddiad Cau ar gyfer Archebu Hysbyseb: diwedd Hydref 06
Dyddiad cau ar gyfer bod ar y rhestr am ddim: 29 Medi 06
Cost Hysbysebu:
Hysbyseb:
Tudalen lawn £480 a TAW
½ tudalen £260 a TAW
1/4 tudalen £150 a TAW
1/8 tudalen £95 a TAW
Tu allan i’r dudalen gefn £600 a TAW
Tu mewn i’r dudalen gefn £550 a TAW
Arddangosfeydd a Digwyddiadau
Bydd Chwaraeon Dwr Cymru yn bresennol yn y sioeau a’r digwyddiadau canlynol. Byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth i chi a chyfleoedd i hyrwyddo yn ein cylchlythyr nesaf.
· Sioe Gychod Ryngwladol Southampton 15 – 24 Medi 06
· Sioe Gychod Ryngwladol Llundain 5 – 14 Ionawr 07
· Sioe Gychod Iwerddon, Dulyn Chwefror 07 (dyddiad i’w gadarnhau)
· Y Sioe Awyr Agored, NEC 16 - 18 Mawrth 07
· Sioe Gychod De Cymru, Parc Margam Mehefin 07 (dyddiad i’w gadarnhau)
Mae mwy a mwy o bobl yn ymweld â’n gwefan www.waleswatersports.co.uk , a bydd yn parhau i gael ei datblygu drwy gydol 2006/07, gyda mwy o wybodaeth a digwyddiadau’n cael eu hychwanegu drwy gydol y flwyddyn. Y safle fydd un o’n prif arfau marchnata a’n nod yw sicrhau bod ymwelwyr sy’n ymddiddori mewn chwaraeon dwr yn troi at y wefan fel man cychwyn am wybodaeth cyn ymweld â Chymru.
Bydd unrhyw fusnes hamdden môr neu ddyfrffyrdd mewndirol sy’n bodloni safonau gofynnol Croeso Cymru, neu’r corff llywodraethu chwaraeon (fel sy’n briodol) yn cael eu rhestru am ddim ar y wefan. Mae modd rhestru digwyddiadau, tafarndai a bwytai ger y glannau hefyd.
Os nad ydych eisoes wedi rhoi eich manylion i ni er mwyn bod ar y rhestr, cysylltwch â stuart@waleswatersports.co.uk am ffurflen gofrestru.
Yn ogystal â bod ar y rhestr am ddim, gallwch hefyd ddewis hysbysebu ar y wefan.
Yn cynnwys hyd at 500 gair disgrifiadol, 3 llun, manylion cyswllt llawn - £95 a TAW am 12 mis