Mae Chwaraeon Dwr Cymru yn croesawu Stuart Hulley i’r tîm – bydd y rheini ohonoch sydd wedi bod yn ymwneud â Chwaraeon Dwr Cymru yn Sioe Gychod Llundain neu Southampton yn adnabod Stuart fel ymwelydd cyson â’r stondin!
Yn wreiddiol o Wrecsam, Gogledd Cymru, symudodd Stuart i Dde Cymru i astudio ar gyfer ei radd mewn dylunio tri dimensiwn ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd. Mae Stuart wedi gweithio yn y diwydiant arddangosfeydd a digwyddiadau dros y 17 mlynedd diwethaf ac wedi gwneud gwaith dylunio creadigol a chyfraniadau eraill i ddigwyddiadau a sioeau amlwg fel sioeau cychod rhyngwladol Llundain a Southampton, Cwpan y Byd Undeb Rygbi Cymru, Wythnos Ewro ar gyfer Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd, Marchnad Deithio’r Byd/World Travel Market a Le Festival Interceltique yn Lorient ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Gyda’i brofiad helaeth ym maes gwerthiant a marchnata, bydd Stuart yn ymuno â thîm Chwaraeon Dwr Cymru ym mis Gorffennaf a bydd yn mynd i’r afael â menter Chwaraeon Dwr Cymru gan dreulio peth amser yn teithio Cymru gan siarad â’r diwydiant chwaraeon dwr yng Nghymru a gwrando ar ei safbwyntiau.
Mae Stuart yn byw ar gyrion Caerdydd, ym mhentref Creigiau. Mae’n briod a chanddo ddau o blant ac mae newydd gwblhau cwrs Wlpan. Mae Stuart yn hwyliwr Laser brwd ac yn aelod o glwb hwylio Corus ym Mhort Talbot – mae’n frwdfrydig iawn ynghylch y datblygiadau ym maes chwaraeon dwr a datblygiadau morol sydd ar y gweill yng Nghymru.
Bydd Stuart wedi’i leoli yn Swyddfa Chwaraeon Dwr Cymru a gellir cysylltu â Stuart drwy e-bostio stuart@waleswatersports.co.uk neu ffonio 0845 087 3287.