Cafwyd ymateb da i’r sioe gan gwmnïau. Er bod nifer yr ymwelwyr wedi disgyn ychydig i 118 000, roedd ymholiadau ac archebion ar i fyny.

Roedd gan Chwaraeon Dŵr Cymru stondin 28 metr sgwâr mewn lleoliad amlwg ger y brif fynedfa, yng nghwmni Tiger Bay Training, All Points West, Plas Menai, Awdurdod Porthladd Caerdydd, Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau a Phrosiect Afon Teifi ac roedd cynrychiolaeth gan bymtheg cwmni arall. Wedi trafod â’n cymdogion, Celtic Goodwill Raid, rhwygwyd y gwahanfur i greu presenoldeb enfawr a Chymreig a ddenodd llawer o sylwadau edmygus.
Mi drefnon ni ddigwyddiad ar gyfer y cyfryngau ar y dydd Gwener cyntaf, a derbyniad arall i ymwelwyr ar y dydd Sadwrn olaf. Roedd y ddau achlysur yn boblogaidd a llwyddiannus.