Neges gan drefnydd y sioe, Ben Sutcliffe:
Roedd y sioe gyntaf yn llwyddiant ysgubol, a diolch o galon i bawb am eu cefnogaeth. Mae’r gwaith o baratoi’r olynydd yn symud ymlaen yn dda, gan ddilyn yr un patrwm â’r llynedd. Mae pob math o gyrff a chwmnïau wedi dangos diddordeb, gyda 30 wedi archebu lle’n barod.
Mae’n bleser cadarnhau ein bod eto’n cael cymorth marchnata Twristiaeth Bae Abertawe, grym hyrwyddo enfawr Sain Abertawe a The Wave ac mae cylchgrawn Sailing Today wedi addo tudalen flaen rhifyn Mehefin yn arbennig ar ein cyfer. Mi fydd llawer o gylchgronau eraill hefyd yn cyhoeddi hysbysebion ac erthyglau, ynghyd â chynigion arbennig i ddarllenwyr.
Roedd pawb wrth eu boddau â Pharc Margam fel lleoliad, yn enwedig gan fod hen ddigon o le inni ehangu dros y blynyddoedd, ac mae yna olygfeydd gwych o’r môr! Mae Parc Margam o fewn munudau’n unig o gyffordd 38 yr M4, rhwng Caerdydd ac Abertawe ac o fewn 90 munud o draethau Sir Benfro.
Rhagor o wybodaeth ar www.southwalesboatshow.co.uk neu gan Ben Sutcliffe ar 07796 457 307.